Llyfr Eseciel 30:13
Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noph; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dan yn Soan, a gwnaf farnedig¬aethau yn No.
Cross References
Isaiah 19:1BAICH yr Aifft. Wele yr ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl ysgafh, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. º
Jeremiah 10:11Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.
Jeremiah 43:13Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.
Jeremiah 46:14Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod, oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd. º
Jeremiah 46:25ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel-, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf a lliaws No, ac a Pharo, ac a’r Aifft, ac a’i duwiau hi, ac a’i brenhinoedd, sef a Pharo, ac a’r rhai sydd yn ymddiried ynddo; º
Hosea 9:6Canys wele, aethant ymaith gan ddinistr; yr Aifft a’u casgl hwynt, Memffis a’u cladd hwynt: danadl a oresgyn hyfryd leoedd eu harian hwynt; drain a dyf yn eu pebyll.