The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 30

1Agair yr ARGLWYBD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Udwch, Och o'r diwrnod!

3Canys agos dydd, ie, agos dydd yr ARGLWYDD, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe.

4A'r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau.

5Ethiopia, a Libya, a Lydia, a'u gwerin oil, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf.

6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dwr Syene, medd yr Arglwydd DDUW.

7A hwy a wneir yn anghyfannedd ym hlith y gwledydd anghyfanheddol, a'i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig.

8A chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf dan yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi.

9Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod.

10Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Bab¬ilon.

11Efe a'i bobl gydag ef, y rhai trawsion o'r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad a chelanedd.

12Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder,,aigwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a'i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr ARGLWYDD a'i dywedodd.

13Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i'r eilunod ddarfod o Noph; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft.

14Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dan yn Soan, a gwnaf farnedig¬aethau yn No.

15A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No.

16A mi a roddaf dan yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a, bydd ar Noff gyfyngderau beunydd.

17Gwyr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy.

18Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrn¬od, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a'i cuddia hi, a'i merched a ânt i gaethiwed.

19Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

20Ac yn y mis cyntaf o'r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf,,;gan ddywedyd,

21Ha fab dyn, torrais fraich Phaeo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osodi rhwymyn i rwymo, i'w gryfhau i ddal y cleddyf.

22Am hynny fel hyn y dywed yc Arglwydd DDUW; Wele yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a'r hwn oedd ddrytt-iedig; ac a wnaf i'r cleddyf syrthio o'i law ef.

23A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

24A mi a gadarnhaf freichiau bream Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o'i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig.

25Ond mi a gadarnhaf freichian brenin Babilon, a breichiau Pharo,a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft.

26A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg-y cenhedloedd, ac a'u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfl yw yr ARGLWYDD.

← Llyfr Eseciel 29Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 31 →

Study Llyfr Eseciel 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748