Llyfr Eseciel 34:27
A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan dorrwyf rwymau cu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:6Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
Job 5:23Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi.
Isaiah 4:2Y pryd hwnnw y bydd Blaguryn yr ARGLWYDD yn brydferthwch ac yn ogoniant; a ffrwyth y ddaear yn rhagorol ac yn hardd i’r rhai a ddianghasant o Israel.
Isaiah 10:27A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad. º
Isaiah 35:1YR anialwch a’r anghyfanheddk a lawenychant o’u plegid; y ‘diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn. º