The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 34

1Agair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,.

2Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeil-iaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd?

3Y braster a fwytewch, a'r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd.

4Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a'r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a'r golledig ni cheis-iasoch; eithr llywodraethasoch hwynt a thrais ac a chreulondeb.

5A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt.

6Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a'u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.

7Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr ARGLWYDD.

8Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwyst¬filod y maes, o eisiau bugail, ac na cheis-iodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a'u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd:

9Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr ARGLWYDD.

10Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a.gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio a phorthi y praidd; a'r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o'u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.

11Canys fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a'u ceisiaf hwynt.

12Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a'u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll..

13A dygaf hwynt allan o fysg y bob-'loedd, a chasglaf hwynt o'r tiroedd, a dygaf hwynt i'w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad.

14Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel.

15Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a'u gorweddfaf hwynt, medd yr Ar¬glwydd DDUW.

16Y golledig a geisiaf, a'r darfedig a ddychwelaf, a'r friwedig a rwymaf, a'r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a'r gref; a barn y porthaf hwynt.

17Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a'r bychod.

18Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o'ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni: bydd i chwi sathru y rhan arall a'ch traed?

19A'm praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi, a mathrfa eich traed a yfant.

20Am hynny fel hyn y dywed yr.Arglwydd DDUW wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul.

21Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch a'ch cyrn y rhai llesg oil, hyd oni wasgarasoch hwynt allan:

22Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn.

23Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.

24A minnau yr ARGLWYDD a fyddaf yn DDUW iddynt, a'm gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr AR¬GLWYDD a leferais hyn.

25Gwnaf hefyd a hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.

26Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i'r glaw ddisgyn yn ei amser, cawodydd bendith a fydd.

27A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a'r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan dorrwyf rwymau cu hiau hwynt, a'u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt.

28Ac ni byddant mwyach yn ysbail i'r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a'u dychryno.

29Cyfodaf iddynt hefyd bl.inhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd.

30Fel hyn y cant wybod mai myfi yr ARGLWYDD eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, ty Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd DDUW.

31Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eifch Duw chwi, medd yr Arglwydd DDCW.

← Llyfr Eseciel 33Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 35 →

Study Llyfr Eseciel 34

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748