Llyfr Eseciel 38:11
A thi a ddywedi. Mi a af i fyny i wlad sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 12:10Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddïogel:
Judges 18:27A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl louydd a- diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân. º
Proverbs 1:11Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:
Isaiah 37:24Trwy law dy weision y ceblaist yr Arglwydd, ac y dywedaist, A lliaws fy ngherbydau y deuthum i fyny i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd, a’i ddewis ffynidwydd; af hefyd i’w gŵr uchaf, ac i goed ei ddoldir. º
Ezekiel 38:8Wedi dyddiau lawer yr ymwelir a thi; yn y Mynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.
Zechariah 2:8Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ar ôl y gogoniant y'm hanfonodd at y cenhedloedd y rhai a'ch ysbeiliasant chwi: canys a gyffyrddo â chwi, sydd yn cyffwrdd â channwyll ei lygad ef.