Llyfr Eseciel 38
1Agair yr ARGLWYDD a ddaeth ytaf, gan ddywedyd,
2Gosod dy wyneb, fab dyn, yn erbyn Gog, tir Magog, pen-tywysog Mesech a Thubal, a phroffwyda yn ei erbyn,
3A dywed, Fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd DDUW; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen-tywysog Mesech a Thubal.
4Dychwelaf di hefyd, a rhoddaf fachau yn dy fochgernau, a mi a'th ddygaf allan, a'th holl lu, y meirch a'r marchogion, wedi eu gwisgo i gyd a phob rhyw arfau, yn gynulleidfa fawr a tharianau ac estylch, hwynt oll yn dwyn cleddyfau:
5Persia, Ethiopia, a Libya, gyda hwynt; hwynt oll yn dwyn tarian a helm:
6Gomer a'i holl fyddinoedd; ty Togarma o ystlysau y gogledd, a'i holl fyddinoedd; a phobl lawer gyda thi.
7Ymbaratoa, ie, paratoa i ti dy hun, ti a'th holl gynulleidfa y rhai a ymgynullasant atat, a bydd yn gadwraeth iddynt.
8Wedi dyddiau lawer yr ymwelir a thi; yn y Mynyddoedd diwethaf y deui i dir wedi ei ddwyn yn ei ôl oddi wrth y cleddyf, wedi ei gasglu o bobloedd lawer yn erbyn mynyddoedd Israel, y rhai a fuant yn anghyfannedd bob amser: eithr efe a ddygwyd allan o'r bobloedd, a hwynt oll a drigant mewn diogelwch.
9Dringi hefyd fel tymesti; deui, a byddi fel cwmwl i guddio y ddaear, ti a'th holl fyddinoedd, a phobloedd lawer gyda thi.
10Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Bydd hefyd yn y dydd hwnnw i bethau ddyfod i'th feddwl, a thi a feddyli feddwl drwg.
11A thi a ddywedi. Mi a af i fyny i wlad sydd yn preswylio yn ddiogel, gan drigo oll heb gaerau, ac heb drosolion na dorau iddynt,
12I ysbcilio ysbail, i ysglyfaethu ysglyfaeth, i ddychwelyd dy law ar anghyf-aneddleoedd, y rhai a gyfanheddir yr awr hon, ac ar y bobl a gasglwyd o'r cenhed¬loedd, y rhai a ddarparasant anifeiliaid a golud, ac ydynt yn trigo yng nghanol y wlad.
13Seba, a Dedan, a marchnadyddion Tarsis hefyd, a'u holl lewod ieuainc, a ddywedant wrthyt, Ai i ysbeilio ysbail y daethost ti? ai i ysglyfaethu ysglyfaeth y cesglaist y gynulleidfa? ai i ddwyn ymaith arian ac aur, i gymryd anifeiliaid a golud, i ysbeilio ysbail fawr?
14y Am hynny proffwyda, fab dyn, a dywed wrth Gog, Fel hyn y dywed y? Arglwydd DDUW; Y dydd hwnnw, pac breswylio fy mhobl Israel yn ddiofal, om chei di wybod?
15A thi a ddeui o'th fangre dy hun u ystlysau y gogledd, ti, a phobl lawer gyd; thi, hwynt oll yn marchogaeth ar feirchJ yn dyrfa fawr, ac yn llu Iluosog.
16A thi a ei i fyny yn erbyn fy mhobl Israel, fel cwmwl i guddio y ddaear: yr y dyddiau diwethaf y bydd hyn; a m. a'th ddygaf yn erbyn fy nhir, fel yi adwaeno y cenhedloedd fi, pan ymsancteidd iwyf ynot ti, Gog, o flaen eu llygaid hwynt.
17Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Ai tydi yw yr hwn y lleferais amdano yn y dyddiau gynt, trwy law fy ngweision, proffwydi Israel, y rhai a broffwydasant y dyddiau hynny flynyddoedd lawer, y dygwn di yn eu herbyn hwynt?
18A bydd yn y dydd hwnnw, yn y dydd y delo Gog yn erbyn tir Israel, medd yr Arglwydd DDUW, i'm llid gyfodi yn fy soriant.
19Canys yn fy eiddigedd, ac yn angerdd fy nicllonedd y dywedais, Yn ddiau bydd yn y dydd hwnnw ddychryn mawr yn nhir Israel;
20Fel y cryno pysgod y môr, ac ehediaid y nefoedd, a bwystfilod y maes, a phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a phob dyn ar wyneb y ddaear, ger fy mron i; a'r mynyddoedd a ddryllir i lawr, a'r grisiau a syrthiant, a phob mur a syrth i lawr.
21A mi a alwaf am gleddyf yn ei erbyn trwy fy holl fynyddoedd, medd yr Arglwydd DDUW: cleddyf pob un fydd yn erbyn ei frawd.
22Mi a ddadleuaf hefyd yn ei erbyn ef & haint ac a gwaed: glawiaf hefyd guriaw, a cherrig cenllysg, tân a brwmstan, arno ef, ac ar ei holl fyddinoedd, ac ar y bob-loedd lawer sydd gydag ef.
23Fel hyn yr ymfawrygaf, ac yr ymsancteiddiaf; a pharaf fy adnabod yng ngolwg cenhedloedd lawer, fel y gwy-pont mai myfi yw yr ARGLWTOD.