Llyfr Eseciel 44:15
Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt-hwy a nesant ataf fi i'm gwasanaethu, ac a safant o'm blaen i offrymu i mi y braster a'r gwaed, medd yr Arglwydd IOR:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 3:3Ac offrymmed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wer a fydd ar y perfedd.
Leviticus 17:5O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ïe, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd.
Numbers 16:5Ac efe a lefarodd wrth Corah, ac wrth ei holl gynnulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesâu atto ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe atto.
Deuteronomy 10:8¶ Yr amser hwnnw y neillduodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfammod yr Arglwydd, i sefyll ger bron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.
2 Samuel 8:17A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd: º
Jeremiah 33:18Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd-offrwrn, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd. º