Llyfr Lefiticus 17:5
O herwydd yr hwn beth, dyged meibion Israel eu haberthau y rhai y maent yn eu haberthu ar wyneb y maes; ïe, dygant hwynt i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, at yr offeiriad, ac aberthant hwynt yn aberthau hedd i’r Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Lefiticus 17
Cross References
Genesis 21:33¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragywyddol.
Genesis 22:13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
Exodus 24:5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
Leviticus 7:11Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offrymma efe i’r Arglwydd.
1 Kings 3:2Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny.
1 Kings 14:23Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas. º