Llyfr Eseciel 48:21
A'r hyn a adewir fydd i'r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o'r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua'r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn a rhannau y tywysog: a'r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y ty fydd yng nghanol hynny.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezekiel 34:23Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.
Ezekiel 45:7A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaetb y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain taa'indwyrain-Jai'tfnyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.
Ezekiel 48:10Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua'r gogledd o hyd, a dengmil tua'r gorilewin o led; felly deng-mil tua'r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua'r deau o hyd: a chysegr yr ARGLWYDD fydd yn ei ganol.
Hosea 1:11Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.