Llyfr Hosea 1:11
Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 110:3Cylchynasant fi hefyd â geiriau cas; ac ymladdasant â mi heb achos.
Jeremiah 3:18Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi.
Jeremiah 30:3Canys wele y ddyddiau yn dyfod medd yr ARGLWYDD, i mi ddychwelyd caethiwed fy mhobl Israel a Jwda, medd yr ARGLWYDD: a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’r wlad a roddais i’w tadau, a hwy a’i meddiannant hi. º
Jeremiah 31:33Ond dyma y cyfamod a wnaf fi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. º
Jeremiah 50:19A mi a ddychwelaf Israel i’w drigfa, ac efe a bawr ar Carmel a Basan; ac ar fynydd Effraim a Gilead y digonir ei enaid ef. º
Ezekiel 34:23Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a'u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a'u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt.