Llyfr Esra 3:5
Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr ARGLWYDD, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i’r ARGLWYDD.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 29:38¶ A dyma yr hyn a offrymmi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
Leviticus 1:3Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
Numbers 28:3A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymmwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffeith-gwbl, bob dydd, yn boeth-offrwm gwastadol.
Numbers 28:14A’u dïod-offrwm fydd hanner hin gyd â bustach, a thrydedd ran hin gyd â hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gyd âg oen. Dyma boeth-offrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.
Numbers 28:27Ond offrymmwch ddau fustach ieuaingc, un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boeth-offrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
Numbers 29:8Ond offrymmwch boeth-offrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuangc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffeith-gwbl gennych.