Llyfr Lefiticus 1:3
Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 22:2Yna y dywedodd Duw, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
Genesis 22:13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
Exodus 24:5Ac efe a anfonodd langciau meibion Israel; a hwy a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd.
Exodus 29:18A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poeth-offrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
Exodus 32:6A hwy a godasant yn fore drannoeth ac a offrymmasant boeth-offrymmau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, ac a godant i fynu i chwarae.
Exodus 35:21A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tu ag at waith pabell y cyfarfod, a thu ag at ei holl wasanaeth hi, a thu ag at y gwisgoedd sanctaidd.