Llyfr Esra 7:14
Oherwydd dy anfon di oddi wrth y brenin, a’i saith gynghoriaid, i ymweled â Jwda ac â Jerwsalem, wrth gyfraith dy DDUW yr hon sydd yn dy law di,
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Ezra 1:3Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei DDUW gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiled dŷ ARGLWYDD DDUW Israel, (dyna y DUW), yr hwn sydd yn Jerwsalem.
Ezra 6:12A’r Duw, yr hwn a wnaeth i’w enw breswylio yno, a ddinistria bob brenin a phobl a estynno ei law i newidio ac i ddistrywio y tŷ hwn eiddo DUW yn Jerwsalem. Myfi Dareius a osodais y gorchymyn; gwneler ef yn ebrwydd.
Ezra 7:25Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
Ezra 8:25Ac a bwysais atynt hwy yr arian, a’r aur, a’r llestri, sef offrwm tŷ ein Duw ni, yr hyn a offrymasai y brenin, a’i gynghoriaid, a’i dywysogion, a holl Israel, y rhai a gawsid yno.
Isaiah 8:20At y gyfraith, ac at y dystiotaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hyany sydd am nad oes oleuni ynddynt. º
Daniel 6:20A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy DDUW di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?