Llyfr Esra 8:17
A rhoddais orchymyn gyda hwynt at Ido, y pennaeth yn y fan a elwir Chasiffia; a gosodais yn eu pennau hwynt eiriau i’w traethu wrth Ido, a’i frodyr y Nethiniaid, yn y fan a elwir Chasiffia, fel y dygent atom ni weinidogion i dŷ ein Duw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 4:15Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyd â’th enau di, a chyd â’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch.
Numbers 18:6Ac wele, mi a gymmerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
2 Samuel 14:3A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.
1 Chronicles 23:3A’r Lefiaid a gyfrifwyd o fab deng mlwydd ar hugain, ac uchod: a’u nifer hwy wrth eu pennau, bob yn ŵr, oedd onid dwy fil deugain. º
Ezra 2:43Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,
Ezra 7:7A rhai a aethant i fyny o feibion Israel, ac o’r offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, i Jerwsalem, yn y seithfed flwyddyn i’r brenin Artacsercses.