Llyfr Numeri 18:6
Ac wele, mi a gymmerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 6:17Ac wele myfi, ïe myfi, yn dwyn dyfroedd diluw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
Exodus 14:17Wele, fi, ïe, myfi a galedaf galon yr Aiphtiaid, fel y delont ar eu hol hwynt: a mi a ogoneddir ar Pharaoh, ac ar ei holl fyddin, ar ei gerbydau ef, ac ar eu farchogion.
Numbers 3:6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
Numbers 3:12Ac wele, mi a gymmerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig, sef pob cyntaf a agoro y groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
Numbers 3:45Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.
Isaiah 48:15Myfi, myn a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef. º