Llyfr Esra 9:7
Er dyddiau ein tadau yr ydym ni mewn camwedd mawr hyd y dydd hwn; ac am ein hanwireddau y rhoddwyd ni, ein brenhinoedd, a’n hoffeiriaid, i law brenhinoedd y gwledydd, i’r cleddyf, i gaethiwed, ac i anrhaith, ac i warthrudd wyneb, megis heddiw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:39A’r rhai a weddillir o honoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyd â hwynt y toddant.
Deuteronomy 4:25¶ Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir-drigo o honoch yn y wlad, ac ymlygru o honoch, a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef;
Deuteronomy 29:22A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ol, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ol chwi, a’r dïeithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont bläau y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;
Deuteronomy 31:20Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwyttao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dïeithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddymma fy nghyfammod.
1 Samuel 12:15Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr ARGLWYDD, eithr anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y bydd liaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau. º
2 Kings 17:5Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy’r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd. º