Llythyr Paul at y Galatiaid 1:21
Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia;
Beibl (1620)
In The King James Version
Afterwards I came into the regions of Syria and Cilicia;
In Context
20A’ r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd.
22Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist:
Read all of Llythyr Paul at y Galatiaid 1
Cross References
Acts 6:9Yna y cyfododd rhai o’r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alexandriaid, a’r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:
Acts 11:25Yna yr aeth Barnabas i Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia.
Acts 15:23A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a’r henuriaid, a’r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o’r Cen¬hedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch:
Acts 18:18Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned.
Acts 21:39A Phaul a ddywedodd, Gŵr ydwyf fi yn wir o Iddew, un o Darsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.
Acts 23:34Ac wedi i’r rhaglaw ddarllen y llythyr, ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe: a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd;