Llythyr Paul at y Galatiaid 1
1Paul, apostol, (nid o ddynion, na thrwy ddyn, eithr trwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn a’i cyfododd ef o feirw;)
2A’r brodyr oll y rhai sydd gyda mi, at eglwysi Galatia:
3Gras fyddo i chwi a heddwch oddi wrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist;
4Yr hwn a’i rhoddes ei hun dros ein pechodau, fel y’n gwaredai ni oddi wrth y byd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a’n Tad ni:
5I’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall:
7Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist.
8Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema.
9Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.
10Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.
11Eithr yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl a bregethwyd a gennyf fi, nad yw hi ddynol.
12Canys nid gan ddyn y derbyniais i hi, nac y’m dysgwyd; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist.
13Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y grefydd Iddewig, i mi a allan o fesur erlid eglwys Dduw, a’i hanrheithio hi;
14Ac i mi gynyddu yn y grefydd Iddewig yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gan fod yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.
15Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a’m neilltuodd i o groth fy mam, ac a’m galwodd i trwy ei ras,
16I ddatguddio ei Fab ef ynof fi, fel y pregethwn ef ymhlith y cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â chig a gwaed:
17Ac nid euthum yn fy ôl i Jerwsalem at y rhai oedd o’m blaen i yn apostolion; ond mi a euthum i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
18Yna ar ôl tair blynedd y deuthum yn fy ôl i Jerwsalem i ymweled â Phedr; ac a arhosais gydag ef bymtheng niwrnod.
19Eithr neb arall o’r apostolion nis gwelais, ond Iago brawd yr Arglwydd.
20A’ r pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, wele, gerbron Duw, nad wyf yn dywedyd celwydd.
21Wedi hynny y deuthum i wledydd Syria a Cilicia;
22Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth fy wyneb yn eglwysi Jwdea y rhai oedd yng Nghrist:
23Ond yn unig hwy a glywsent, fod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yr awron yn pregethu’r ffydd, yr hon gynt a anrheithiasai.
24A hwy a ogoneddasant Dduw ynof fi.