Llyfr Genesis 1:26
¶ Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 3:22¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un o honom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragywyddol:
Genesis 9:2Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
Genesis 11:7Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.
Job 35:10Ond ni ddywed neb, Pa le y mae DUW, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?
Psalms 8:4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
Psalms 100:3Moliannant dy enw mawr ac ofnadwy; canys sanctaidd yw.