Llyfr Genesis 9:2
Eich ofn hefyd a’ch arswyd fydd ar holl fwystfilod y ddaear, ac ar holl ehediaid y nefoedd, a’r hyn oll a ymsymmudo ar y ddaear, ac ar holl bysgod y môr; yn eich llaw chwi y rhoddwyd hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:26¶ Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
Genesis 2:19A’r Arglwydd Dduw a luniodd o’r ddaear holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygodd at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt hwy: a pha fodd bynnag yr enwodd y dyn bob peth byw, hynny fu ei enw ef.
Leviticus 26:6Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir.
Job 5:22Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear.
Psalms 8:4O thelais ddrwg i’r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
Ezekiel 34:25Gwnaf hefyd a hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i'r bwystfil drwg beidio o'r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd.