Llyfr Genesis 11:5
A’r Arglwydd a ddisgynodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.
Beibl (1620)
In The King James Version
And the LORD came down to see the city and the tower, which the children of men builded.
In Context
Cross References
Exodus 3:8A mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Aiphtiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid.
Exodus 19:18A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, o herwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr.
Psalms 11:4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.
Jeremiah 23:23Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr ARGLWYDD, ac nid Duw o bell? º
Hebrews 4:13Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn son.