The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 11

1Terah yn myned o Ur i Haran. A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd.

2A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael o honynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant.

3A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch.

4A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear.

5A’r Arglwydd a ddisgynodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion.

6A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur.

7Deuwch, disgynwn, a chymmysgwn yno ei hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd.

8Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant âg adeiladu y ddinas.

9Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymmysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

10¶ Dyma genhedlaethau Sem: Sem ydoedd fab càn mlwydd, ac a genhedlodd Arphaxad ddwy flynedd wedi y diluw.

11A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arphaxad, bùm càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

12Arphaxad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Selah.

13Ac Arphaxad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Selah, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

14Selah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber.

15A Selah a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

16Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg.

17A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

18Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu.

19A Pheleg a fu farw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

20Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug.

21A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau càn mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

22Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor.

23A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

24Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Terah.

25A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Terah, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.

26Terah hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thri ugain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27¶ A dyma genhedlaethau Terah: Terah a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot.

28A Haran a fu farw o flaen Terah ei dad, y’ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid.

29Yna y cymmerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milcah, merch Haran, tad Milcah, a thad Iscah.

30A Sarai oedd ammhlantadwy, heb blentyn iddi.

31A Therah a gymmerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.

32A dyddiau Tera oedd bùm mlynedd a dau càn mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.

← Llyfr Genesis 10Read In The App, Free →Llyfr Genesis 12 →

Study Llyfr Genesis 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950