Llyfr Genesis 15:17
A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.
Cross References
Exodus 20:18¶ A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr udgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell.
Judges 6:21Yna angel yr ARGLWYDD a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â’r cig, ac â’r bara croyw: a’r tân a ddyrchafodd o’r graig, ac a ysodd y cig, a’r bara croyw. Ac angel yr ARGLWYDD a aeth ymaith o’i olwg ef.
2 Samuel 22:9Dyrchafodd mwg o’i ffroenau ef, â thân o’i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef. º
Isaiah 62:1ER mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. º
Jeremiah 34:18A mi a roddaf y dynion a droseddodd fy nghyfamod, y rhai ni chwblhasant eiriau y cyfamod a wnaethant ger fy mron, wedi iddynt fyned rhwng rhannau y llo, yr hwn a holltasent yn ddau; º