The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 15

1a gweledigaeth. Wedi y pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn.

2A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddiblant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleazar yma o Damascus.

3Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd.

4Ac wele air yr Arglwydd atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.

5Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly, y bydd dy had di.

6Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder.

7Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu.

8Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?

9Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colommen.

10Ac efe a gymmerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer eu gilydd; ond ni holltodd efe yr adar.

11A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt.

12A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trwmgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef.

13Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddïeithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar càn mlynedd.

14A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr.

15A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.

16Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd etto anwiredd yr Amoriaid.

17A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny.

18Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfammod âg Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aipht hyd yr afon fawr, afon Euphrates:

19Y Ceneaid, a’r Ceneziaid, a’r Cadmoniaid.

20Yr Hethiaid hefyd, a’r Phereziaid, a’r Rephaimiaid,

21Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.

← Llyfr Genesis 14Read In The App, Free →Llyfr Genesis 16 →

Study Llyfr Genesis 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950