Llyfr Genesis 15:9
Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colommen.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
Cross References
Genesis 22:13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
Leviticus 1:10¶ Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offrymma efe boeth-offrwm; offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl.
Leviticus 3:1ai gafr. Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymmo efe eidion, offrymmed ef gerbron yr Arglwydd yn berffeith-gwbl; pa un bynnag ai yn wrryw ai yn fenyw.
Leviticus 9:2Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymmer i ti lo ieuangc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boeth-offrwm, o rai perffeith-gwbl, a dwg hwy ger bron yr Arglwydd.
Leviticus 12:8Ac os ei llaw ni chyrhaedd werth oen, yna cymmered ddwy durtur, neu ddau gyw colommen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosti; a glân fydd.
Leviticus 14:30Yna offrymmed un o’r turturau, neu o’r cywion colommennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef;