Llyfr Genesis 17:1
Enwaedu ar Abraham ac Ismael. A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A mi a wnaf fy nghyfammod rhyngof a thi, ac a’th amlhâf di yn aml iawn.
Cross References
Genesis 5:22Ac Enoch a rodiodd gyd â Duw wedi iddo genhedlu Methuselah, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
Genesis 6:9¶ Dyma genhedlaethau Noah: Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyd â Duw y rhodiodd Noah.
Genesis 12:7A’r Arglwydd a ymddangosodd i Abram, ac a ddywedodd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn: yntau a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, yr hwn a ymddangosasai iddo.
Genesis 18:1Ac Abraham yn eiriol trostynt. A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo ef y’ngwastadedd Mamre, ac efe yn eistedd wrth ddrws y babell, y’ngwres y dydd.
Genesis 24:40Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd â thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymmeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad.
Genesis 35:11Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynnydda, ac amlhâ; cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.