Llyfr Genesis 35:11
Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynnydda, ac amlhâ; cenedl a chynnulleidfa cenhedloedd a fydd o honot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 9:1ac yn marw. Duw hefyd a fendithiodd Noah a’i feibion, ac a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch a llïosogwch, a llenwch y ddaear.
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Genesis 17:1Enwaedu ar Abraham ac Ismael. A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith.
Genesis 17:6A mi a’th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.
Genesis 18:14A fydd dim yn anhawdd i’r Arglwydd? Ar yr amser nodedig y dychwelaf attat, ynghylch amser bywiolaeth, a mab fydd i Sarah.
Genesis 22:17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;