Llyfr Genesis 17:16
Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab o honi: ïe bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd o honi hi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 1:28Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhêwch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymmudo ar y ddaear.
Genesis 15:4Ac wele air yr Arglwydd atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
Genesis 18:10Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ol ef.
Genesis 24:60Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
Isaiah 49:23Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. º
Galatians 4:26Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hen yw ein mam ni oll.