Llyfr Eseia 49:23
Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
24A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn? º
Cross References
Exodus 6:7Hefyd mi a’ch cymmeraf yn bobl i mi, ac a fyddaf yn Dduw i chwi: a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn eich dwyn chwi allan oddi tan lwythau yr Aiphtiaid.
Ezra 1:2Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda.
Ezra 7:11A dyma ystyr y llythyr a roddodd y brenin Artacsercses i Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, sef ysgrifennydd geiriau gorchmynion yr ARGLWYDD, a’i ddeddfau ef i Israel.
Esther 8:1Y dwthwn hwnnw y rhoddodd brenin Ahasferus i’r frenhines Esther dŷ Haman gwrthwynebwr yr Iddewon. A Mordecai a ddaeth o flaen y brenin; canys Esther a fynegasai beth oedd efe iddi hi.
Psalms 25:3Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?