Llyfr Genesis 19:16
Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferched; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygas ant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 34:6A’r Arglwydd a aeth heibio o’i flaen ef, ac a lefodd Jehofah, Jehofah, y Duw trugarog a graslawn, hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd;
Deuteronomy 4:31(O herwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfammod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt.
1 Chronicles 16:34Clodforwch yr ARGLWYDD;. canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. º
Psalms 86:5Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth?
Psalms 103:8Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn.
Psalms 106:1Clodforwch yr ARGLWYDD; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.