The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 19

1Godinebus fonedd Moab ac Ammon. A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymmodd a’i wyneb tu a’r ddaear;

2Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, attolwg, i dŷ eich gwas; lletŷwch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nag ê; o herwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.

3Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troisant atto, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwyttasant.

4¶ Eithr cyn gorwedd o honynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuangc, sef yr holl bobl o bob cwrr;

5Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant attat ti heno? dwg hwynt allan attom ni, fel yr adnabyddom hwynt.

6Yna y daeth Lot attynt hwy allan i’r drws, ac a gauodd y ddor ar ei ol;

7Ac a ddywedodd, Attolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg.

8Wele yn awr, y mae dwy ferched gennyf fi, y rhai nid adnabuant wr; dygaf hwynt allan attoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; o herwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i.

9A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gwr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri y ddor.

10A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot attynt i’r tŷ, ac a gauasant y ddor.

11Tarawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio y drws.

12¶ A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb etto? mab y’nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon.

13Oblegid ni a ddinystriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr ger bron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinystrio ef.

14Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn prïodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; o herwydd y mae yr Arglwydd yn difetha y ddinas hon: ac y’ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

15¶ Ac ar godiad y wawr, yr angelion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas.

16Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferched; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygas ant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas.

17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dïangc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd: dïangc i’r mynydd, rhag dy ddifetha.

18A dywedodd Let wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd.

19Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddïangc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw o honof.

20Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gâd i mi ddïangc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid.

21Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiatteais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinystriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist.

22Brysia, dïangc yno; o herwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.

23¶ Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar.

24Yna yr Arglwydd a wlawiodd ar Sodom a Gomorrah frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd.

25Felly y dinystriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

26¶ Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ol ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27¶ Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo ger bron yr Arglwydd.

28Ac efe a edrychodd tu a Sodom a Gomorrah, a thu a holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

29¶ A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinystr, pan ddinystriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30¶ A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gyd âg ef: o herwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferched.

31¶ A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gwr nid oes yn y wlad i ddyfod attom ni, wrth ddefod yr holl ddaear.

32Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.

33A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyd â’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

34A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyd â’m tad; rhoddwn win iddo i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gyd âg ef, fel y cadwom had o’n tad.

35A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gyd âg ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi.

36Felly dwy ferched Lot a feichiogwyd o’u tad.

37A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddyw.

38A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben-ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddyw.

← Llyfr Genesis 18Read In The App, Free →Llyfr Genesis 20 →

Study Llyfr Genesis 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950