Llyfr Genesis 21:12
¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11A’r peth hyn fu ddrwg iawn y’ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
13Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
Cross References
Genesis 17:21Eithr fy nghyfammod a gadarnhâf âg Isaac, yr hwn a ymddŵg Sarah i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf.
1 Samuel 8:9Yn awr gan hynny gwrando ar en llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt. º
Romans 9:7Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn had Abraham, i gyd yn blant; eithr, Yn Isaac y gelwir i ti had.