Llyfr Genesis 21
1Cynghrair rhwng Abimelech ac Abraham yn Beer-seba. A’r Arglwydd a ymwelodd â Sarah fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sarah fel y llefarasai.
2O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef.
3Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
4Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchymynasai Duw iddo ef.
5Ac Abraham oedd fab càn mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.
6¶ A Sarah a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyd â mi.
7Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoisai Sarah sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef.
8A’r bachgen a gynnyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.
9¶ A Sarah a welodd fab Agar yr Aiphtes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar.
10A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaeth-forwyn hon a’i mab; o herwydd ni chaiff mab y gaethes hon gyd-etifeddu â’m mab i Isaac.
11A’r peth hyn fu ddrwg iawn y’ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.
12¶ A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llangc, nac am dy gaeth-forwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sarah wrthyt, gwrando ar ei llais: o herwydd yn Isaac y gelwir i ti had.
13Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, o herwydd dy had di ydyw ef.
14Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymmerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, (gan osod ar ei hysgwydd hi hynny,) a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
15A darfu y dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd.
16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
17A Duw a wrandawodd ar lais y llangc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, o herwydd Duw a wrandawodd ar lais y llangc lle y mae efe.
18Cyfod, cymmer y llangc, ac ymafael ynddo â’th law, oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr.
19A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddïododd y llangc.
20Ac yr oedd Duw gyd â’r llangc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa.
21Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymmerodd iddo ef wraig o wlad yr Aipht.
22¶ Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant âg Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyd â thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur.
23Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlawn i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ol y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi.
24Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf.
25Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais.
26Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybum i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddyw.
27Yna y cymmerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau.
28Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain.
29Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain?
30Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymmeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn.
31Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.
32Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer-seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.
33¶ Ac yntau a blannodd goed yn Beer-seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragywyddol.
34Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.