Llyfr Genesis 21:2
O herwydd Sarah a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo, (yr hwn a ymddygasai Sarah iddo ef) Isaac.
Cross References
Genesis 17:19A Duw a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddïau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhâf fy nghyfammod âg ef yn gyfammod tragywyddol, ac â’i had ar ei ol ef.
Genesis 18:10Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf attat ynghylch amser bywiolaeth; ac wele fab i Sarah dy wraig. A Sarah oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ol ef.
Joshua 24:3Ac mi a gymmerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
Luke 1:24Ac ar ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
Acts 7:8Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.
Galatians 4:22Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd.