Llyfr Genesis 22:9
Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab;
Cross References
Genesis 8:20A Noah a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymmerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymmodd boeth-offrymmau ar yr allor.
Genesis 22:2Yna y dywedodd Duw, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
Isaiah 53:4Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a’i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan DDUW, a’i gystuddio. º
Matthew 26:1A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
Mark 15:1Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat.
Acts 8:32A’r lle o’r ysgrythur yr oedd efe yn ei ddarllen, oedd hwn, Fel dafad i’r lladdfa yr arweiniwyd ef; ac fel oen ger¬bron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau: