The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 22

1Cenhedlaeth Nachor hyd Rebeccah. Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

2Yna y dywedodd Duw, Cymmer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Morïah, ac offrymma ef yno yn boeth-offrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

3¶ Ac Abraham a fore-gododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymmerodd ei ddau langc gyd âg ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poeth-offrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho.

4Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai y lle o hirbell.

5Ac Abraham a ddywedodd wrth ei langciau, Arhoswch chwi yma gyd â’r asyn; a mi a’r llangc a awn hyd accw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn attoch.

6Yna y cymmerth Abraham goed y poeth-offrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymmerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd.

7A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poeth-offrwm?

8Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poeth-offrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd:

9Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed.

10Ac Abraham a estynodd ei law, ac a gymmerodd y gyllell i ladd ei fab;

11Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi.

12Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llangc, ac na wna ddim iddo: o herwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad atteliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi.

13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.

14Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw Jehofah -jire; fel y dywedir heddyw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

15¶ Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd;

16Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, o herwydd gwneuthur o honot y peth hyn, ac nad atteliaist dy fab, dy unig fab:

17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;

18Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrandaw o honot ar fy llais i.

19Yna Abraham a ddychwelodd at ei langciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer-seba: ac Abraham a drigodd yn Beer-seba.

20¶ Darfu hefyd, wedi y pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milcah hithau hefyd blant i Nachor dy frawd;

21Hus ei gyntaf-anedig, a Buz ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram,

22A Chesed, a Hazo, a Phildas, ac Idlaph, a Bethuel.

23A Bethuel a genhedlodd Rebeccah: yr wyth hyn a blantodd Milcah i Nachor brawd Abraham.

24Ei ordderch-wraig hefyd, a’i henw Reumah, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maachah.

← Llyfr Genesis 21Read In The App, Free →Llyfr Genesis 23 →

Study Llyfr Genesis 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950