Llyfr Genesis 24:14
A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
Cross References
Genesis 15:8Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi?
Genesis 24:44Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
Judges 6:17Ac efe a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf.
Judges 7:13A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.
1 Samuel 6:7Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ:
1 Samuel 14:8Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. º