Llyfr Genesis 24
1Isaac yn cyfarfod â hi. Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim.
2A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd:
3A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymmerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg.
4Ond i’m gwlad i yr âi, ac at fy nghenedl i yr âi di, ac a gymmeri wraig i’m mab Isaac.
5A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ol i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan o hono?
6A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7¶ Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymmerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymmeri wraig i’m mab oddi yno.
8Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ol di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.
9A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10¶ A chymmerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl ddâ ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor.
11Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brydnawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr.
12Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, attolwg, pâr i mi lwyddiant heddyw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
13Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr:
14A bydded, mai y llangces y dywedwyf wrthi, Gogwydda, attolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddïodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur o honot ti drugaredd â’m meistr.
15¶ A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeccah yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milcah, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd.
16A’r llangces oedd dêg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i wr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fynu.
17A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Attolwg, gâd i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên.
18A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i dïododd ef.
19A phan ddarfu iddi ei ddïodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed.
20A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef.
21A’r gwr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai nad do.
22A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymmeryd o’r gwr glust-dlws aur, yn banner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylaw hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys.
23Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, attolwg: a oes lle i ni i lettŷa yn nhŷ dy dad?
24A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milcah, yr hwn a ymddûg hi i Nachor.
25A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i lettŷa.
26A’r gwr a ymgrymmodd, ac a addolodd yr Arglwydd.
27Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr.
28A’r llangces a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29¶ Ac i Rebeccah yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gwr allan i’r ffynnon.
30A phan welodd efe y clust-dlws, a’r breichledau am ddwylaw ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeccah ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gwr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gwr; ac wele efe yn sefyll gyd â’r camelod wrth y ffynnon.
31Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a barottoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32¶ A’r gwr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gyd âg ef.
33A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwytta; ac efe a ddywedodd, Ni fwyttâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha.
34Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi.
35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.
36Sarah hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo.
37A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymmer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir.
38Ond ti a âi i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymmeri wraig i’m mab.
39A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ol i.
40Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyd â thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymmeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad.
41Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw.
42A heddyw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni:
43Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, attolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên;
44Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr.
45A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeccah yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dïoda fi, attolwg.
46Hithau a frysiodd, ac a ddis gynodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhâf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd.
47A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milcah iddo ef. Yna y gosodais y clust-dlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylaw hi:
48Ac a ymgrymmais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymmeryd merch brawd fy meistr i’w fab ef.
49Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid ê, mynegwch i mi; fel y tröwyf ar y llaw ddehau, neu ar y llaw aswy.
50Yna yr attebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.
51Wele Rebeccah o’th flaen; cymmer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd.
52A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymmodd hyd lawr i’r Arglwydd.
53A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeccah: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam.
54A hwy a fwyttasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gyd âg ef, ac a lettyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr.
55Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llangces gyd â ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned.
56Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr.
57Yna y dywedasant, Galwn ar y llangces, a gofynnwn iddi hi.
58A hwy a alwasant ar Rebeccah, a dywedasant wrthi, A âi di gyd â’r gwr hwn? A hi a ddywedodd, Af.
59A hwy a ollyngasant Rebeccah eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion;
60Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61¶ Yna y cododd Rebeccah, a’i llangcesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ol y gwr; a’r gwas a gymmerodd Rebeccah, ac a aeth ymaith.
62Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai-roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y dehau.
63Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod.
64Rebeccah hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel.
65Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gwr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymmerth orchudd, ac a ymwisgodd.
66A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe.
67Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymmerth Rebeccah, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ol ei fam.