Llyfr Genesis 24:30
A phan welodd efe y clust-dlws, a’r breichledau am ddwylaw ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeccah ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gwr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gwr; ac wele efe yn sefyll gyd â’r camelod wrth y ffynnon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
29¶ Ac i Rebeccah yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gwr allan i’r ffynnon.
Cross References
Judges 17:2Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr ARGLWYDD. º
Jeremiah 2:32A anghofia morwyn ei harddwisg? neu y briodasferch ei thlysau? eto fy mhobl i a’m hanghofiasant ddyddiau aneirif.