Llyfr Genesis 27:13
A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felldith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 25:33A dywedodd Jacob, Twng i mi heddyw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth-fraint i Jacob.
Genesis 43:9Myfi a fechnïaf am dano ef; o’m llaw i y gofyni ef: onis dygaf ef attat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth.
1 Samuel 14:36A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW. º
2 Samuel 14:9A’r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a’r brenin a’i orseddfainc ef yn ddieuog.
Matthew 27:25A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.