Llyfr Genesis 27
1Rebeccah yn ei siommi ef. A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw o hono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi.
2Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth.
3Ac yn awr cymmer, attolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa.
4A gwna i mi flasus-fwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttâwyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw.
5A Rebeccah a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.
6¶ A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd,
7Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasus-fwyd, fel y bwyttâwyf, ac y’th fendithiwyf ger bron yr Arglwydd cyn fy marw.
8Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchymynnaf i ti.
9Dos yn awr i’r praidd, a chymmer i mi oddi yno ddau fỳn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe.
10A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwyttao, ac y’th fendithio cyn ei farw.
11A dywedodd Jacob wrth Rebeccah ei fam, Wele, Esau fy mrawd yn wr blewog, a minnau yn wr llyfn:
12Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felldith, ac nid bendith.
13A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felldith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi.
14Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef.
15Rebeccah hefyd a gymmerodd hoff-wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyd â hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf.
16A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylaw ef, ac am lyfndra ei wddf ef:
17Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.
18¶ Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab?
19A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf-anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, attolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid.
20Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan a hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen.
21A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nês yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad ê.
22A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylaw, dwylaw Esau ydynt.
23Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylaw fel dwylaw ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef.
24Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw.
25Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nês attaf fi, a mi a fwyttâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug atto ef, ac efe a fwyttaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
26Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nês yn awr, a chusana fi, fy mab.
27Yna y daeth efe yn nês, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd.
28A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o frasder y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin:
29Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymmed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymmed meibion dy fam i ti: melldigedig fyddo a’th felldithio, a bendigedig a’th fendithio.
30¶ A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela.
31Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwyttâed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid.
32Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf-anedig Esau.
33Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwytteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe.
34Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ïe finnau, fy nhad.
35Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.
36Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth-fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyd â thi fendith i minnau?
37Ac Isaac a attebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; âg ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnafi tithau, fy mab, weithian?
38Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd.
39Yna yr attebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mrasder y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ym mysg gwlith y nefoedd oddi uchod;
40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
41¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
42A mynegwyd i Rebeccah eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di.
43Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran;
44Ac aros gyd âg ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd;
45Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio o hono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad o honoch eich dau mewn un dydd?
46Dywedodd Rebeccah hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes o herwydd merched Heth: os cymmer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwennychwn fy einioes?