Llyfr Genesis 27:34
Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ïe finnau, fy nhad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
35Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di.
Cross References
1 Samuel 30:4Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd Had oedd nerth ynddynt i wylo. º
Proverbs 1:24Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;
Proverbs 19:3Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.
Hebrews 12:17Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi.