Llyfr Genesis 27:4
A gwna i mi flasus-fwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwyttâwyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 24:60Ac a fendithiasant Rebeccah, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
Genesis 27:14Ac efe a aeth, ac a gymmerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef.
Genesis 27:25Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nês attaf fi, a mi a fwyttâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug atto ef, ac efe a fwyttaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd.
Genesis 27:31Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwyttâed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid.
Genesis 48:9A Joseph a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i ni yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, attolwg, attaf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt.
Genesis 49:28¶ Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma yr hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt.