Llyfr Genesis 3:15
Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Numbers 21:6A’r Arglwydd a anfonodd ym mysg y bobl seirph tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
Isaiah 7:14Am hynny yr ARGLWYDD ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.
Isaiah 53:12Am hynny y rhannaf iddo ran gyda llawer, ac efe a ranna yr ysbail gyda’r cedyrn: am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth: ac efe a gyfrifwyd gyda’r troseddwyr; ac efe a ddug bechodau llaweroedd, ac a eiriolodd dros y tros¬eddwyr.
Daniel 9:26Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd diwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol.
Micah 5:3Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i'r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel,