Llyfr Genesis 3
1A hi a ddywedodd wrth y wraig, Ai dïau ddywedyd o Dduw, Ni chewch chwi fwytta o bob pren o’r ardd?
2A’r wraig a ddywedodd wrth y sarph, O ffrwyth prennau yr ardd y cawn ni fwytta:
3Ond am ffrwyth y pren sydd y’nghanol yr ardd, Duw a ddywedodd, Na fwyttêwch o hono, ac na chyffyrddwch âg ef, rhag eich marw.
4A’r sarph a ddywedodd wrth y wraig, Ni byddwch feirw ddim.
5Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o hono ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau, yn gwybod da a drwg.
6A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai teg mewn golwg ydoedd, a’i fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymmerth o’i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes i’w gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd.
7A’u llygaid hwy ill dau a agorwyd, a hwy a wybuant eu bod yn noethion, ac a wnïasant ddail y ffigysbren, ac a wnaethant iddynt arffedogau.
8A hwy a glywsant lais yr Arglwydd Dduw yn rhodio yn yr ardd, gyd âg awel y dydd; ac ymguddiodd Adda a’i wraig o olwg yr Arglwydd Dduw, ym mysg prennau yr ardd.
9A’r Arglwydd Dduw a alwodd ar Adda, ac a ddywedodd wrtho, Pa le yr wyt ti?
10Yntau a ddywedodd, Dy lais a glywais yn yr ardd; a mi a ofnais, oblegid noeth oeddwn, ac a ymguddiais.
11A dywedodd Duw, Pwy a fynegodd i ti dy fod yn noeth? ai o’r pren y gorchymynaswn i ti na fwyttâit o hono, y bwytteaist?
12Ac Adda a ddywedod, Y wraig a roddaist gyd â mi, hi a roddodd i mi o’r pren, a mi a fwytteais.
13A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarph a’m twyllodd, a bwytta a wneuthum.
14A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.
15Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.
16Wrth y wraig y dywedodd, Gan amlhâu yr amlhâf dy boenau di a’th feichiogi: mewn poen y dygi blant, a’th ddymuniad fydd at dy wr, ac efe a lywodraetha arnat ti.
17Hefyd wrth Adda y dywedodd, Am wrandaw o honot ar lais dy wraig, a bwytta o’r pren am yr hwn y gorchymynaswn i ti, gan ddywedyd, Na fwytta o hono; melldigedig fydd y ddaear o’th achos di: trwy lafur y bwyttêi o honi holl ddyddiau dy einioes.
18Drain hefyd ac ysgall a ddwg hi i ti; a llysiau y maes a fwyttêi di.
19Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid o honi y’th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
20A’r dyn a alwodd enw ei wraig Efa; oblegid hi oedd fam pob dyn byw.
21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd am danynt hwy.
22¶ Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, Wele y dyn sydd megis un o honom ni, i wybod da a drwg. Ac weithian, rhag iddo estyn ei law, a chymmeryd hefyd o bren y bywyd, a bwytta, a byw yn dragywyddol:
23Am hynny yr Arglwydd Dduw a’i hanfonodd ef allan o ardd Eden, i lafurio y ddaear, yr hon y cymmerasid ef o honi.
24Felly efe a yrrodd allan y dyn, ac a osododd, o’r tu dwyrain i ardd Eden, y cerubiaid, a chleddyf tanllyd ysgwydedig, i gadw ffordd pren y bywyd.