Llyfr Genesis 31:26
A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 2:24O herwydd hyn yr ymedy gwr â’i dad, ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig: a hwy a fyddant yn un cnawd.
Genesis 4:10A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o’r ddaear.
Genesis 20:9Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur.
Genesis 29:25A bu, y bore, wele Leah oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist?
Genesis 31:36¶ A Jacob a ddigiodd, ac a roes sèn i Laban: a Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid o honot ar fy ol?
Joshua 7:19A Josua a ddywedodd wrth Achan, Fy mab, attolwg, dyro ogoniant i Arglwydd Dduw Israel, a chyffesa iddo; a mynega yn awr i mi beth a wnaethost: na chela oddi wrthyf.