Llyfr Genesis 31:36
¶ A Jacob a ddigiodd, ac a roes sèn i Laban: a Jacob a attebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid o honot ar fy ol?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 34:7A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed o honynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.
Numbers 16:15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy; ni chymmerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un o honynt.
2 Kings 13:19A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria. º
Mark 3:5Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gall dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
James 1:19O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: