Llyfr Genesis 31:30
Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladratteaist fy nuwiau i?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 31:19Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladrattasai y delwau oedd gan ei thad hi.
Numbers 10:30Dywedodd yntau wrtho, Nid âf ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr âf.
Judges 6:31A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a’i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os Duw yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr.
1 Samuel 5:2A’r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a’i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a’i gosodasant yn ymyl Dagon.
Isaiah 37:19A rhoddi eu duwiau hwy yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, ond gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt. º
Jeremiah 10:11Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.