Llyfr Genesis 31:29
Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffol, gan wneuthur hyn.
Cross References
Genesis 24:50Yna yr attebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da.
Genesis 31:24A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan o honot wrth Jacob na da na drwg.
Genesis 31:53Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac.
2 Samuel 13:22Ac ni ddywedodd Absalom wrth Amnon na drwg na da: canys Absalom a gasaodd Amnon, oherwydd iddo dreisio Tamar ei chwaer ef. º
Psalms 52:1I’r Pencerdd, Salm Dafydd, pan ddaeth Nathan y proffwyd ato, wedi iddo fyned i mewn at Bathseba. Trugarha wrthyf, O DDUW, yn ôl dy drugarowgrwydd:, yn ôl lliaws dy dosturiaethau, dilea fy anwireddau.
Daniel 3:28Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i’w DUW eu hun