Llythyr Iago 1:19
O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint:
Beibl (1620)
In The King James Version
Wherefore, my beloved brethren, let every man be swift to hear, slow to speak, slow to wrath:
In Context
20Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw.
Cross References
Numbers 22:27A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd; ac a orweddodd dan Balaam: yna yr ennynodd dig Balaam, ac efe a darawodd yr asen â ffon.
Nehemiah 8:12A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt.
Nehemiah 9:3A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i’r ARGLWYDD eu DUW.
Job 32:16Wedi disgwyl ohonof, (canys ni lefarant, eithr sefyll heb ateb mwy,)
Proverbs 10:19Yn amlder geiriau ni bydd pall ar bechod; ond y neb a atalio ei wefusau sydd synhwyrol.
Proverbs 14:17Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar.